Dillad a Chyfarpar

Rydym yn eich argymell i wisgo esgidiau addas a chyffyrddus ynghyd â dillad priodol ar gyfer y tywydd. Rydym yn argymell y dylai cerddwyr ddod ag ychydig o fwyd a diod efo nhw ar gyfer y teithiau lle bo hynny’n briodol. Dyma ddolenni i wefan Awyr Agored Cotswold sy’n cefnogi Gŵyl Gerdded Corwen.

Dillad

Esgidiau Cerdded Addas: deunydd sy’n dal dŵr neu ledr; gwadnau rwber cleddog  fel ‘Vibram’ a fydd yn eich nadu rhag llithro. Bydd esgidiau cerdded ysgafn (isel eu toriad, sydd hefyd yn hwylus ar gyfer teithiau cerdded haws yn yr haf) yn addas ar gyfer rhai teithiau cerdded ond rydym yn argymell Esgidiau Cerdded 3-Tymor ar gyfer y teithiau hirach ac uwch (esgidiau uchel sy’n gorchuddio’r ffêr; addas ar gyfer llwybrau garw)

Esgidiau i ddynion

Esgidiau i ferched

Siaced sy’n dal dŵr (deunydd anadladwy sydd â chwfl hefyd)

Siacedi dal dŵr i ddynion

Siacedi dal dŵr i ferched

Haen gyntaf o ddillad (deunydd ‘wicking’ sy’n amsugno lleithder; dim cotwm)

Haen gyntaf i ddynion

Haen gyntaf i ferched

Top Cnu

Topiau Cnu i ddynion

Topiau Cnu i ferched

Trowsus Cerdded (sy’n wyntglos / yn dal glaw; dim jîns!)

Trowsus i ddynion

Trowsus i ferched

Trowsus sy’n dal glaw (i’ch gwarchod mewn glaw trwm)

Trowsus sy’n dal dŵr i ddynion

Trowsus sy’n dal dŵr i ferched

Het a Menig (hyd yn oed yn yr haf – mae’n oerach ac yn fwy gwyntog ar rai o’r llwybrau uwch!)

Hetiau a Menig i ddynion

Hetiau a Menig i ferched

Cyfarpar

Câs i ddal Map (byddwch yn derbyn map o’r llwybr cerdded)

Polion Cerdded (yn lleihau’r pwysau ar eich cymalau ond ddim yn gyfarpar angenrheidiol)

Bag Cefn (25L + sy’n gyffyrddus i wisgo ar eich cefn)

Bwyd a diod ar gyfer eich taith