Cyrraedd Corwen
Teithio ar y Ffordd
Mae’n hawdd cyrraedd Corwen gan ei fod yn agos i’r A5.
Ar ôl i chi gyrraedd Llangollen, arhoswch ar yr A5 a dilynwch yr arwyddion i Fetws y Coed. Byddwch yn teithio drwy Lyndyfrdwy a Llidiart y Parc cyn i chi gyrraedd Corwen. Mae Corwen oddeutu deng milltir o Langollen.
Os ydych yn teithio o Firmingham, teithiwch ar hyd yr M6 gan ddod i ffwrdd yng nghyffordd 10A i gyfeiriad yr M54. Dilynwch yr M54 nes y byddwch yn teithio ar yr A5. Arhoswch ar yr A5 nes i chi gyrraedd Gogledd Cymru.
Os ydych yn teithio o Langollen, arhoswch ar yr A5 a dilynwch yr arwyddion i Fetws y Coed. Byddwch yn teithio drwy Lyndyfrdwy a Llidiart y Parc cyn i chi gyrraedd Corwen. Mae Corwen oddeutu deng milltir o Langollen.
Os ydych yn teithio o Fanceinion, teithiwch ar hyd yr M56 yna ar hyd yr M53 gan ddilyn yr arwyddion i Gaer. Teithiwch ar hyd yr A55 o amgylch Caer cyn ymuno â’r A483. Dilynwch yr arwyddion i Wrecsam. Arhoswch ar yr A483 yn Wrecsam nes i chi gyrraedd cylchfan yr A5. Trowch i’r dde tuag at yr A5 ac arhoswch ar y ffordd nes i chi gyrraedd Llangollen. Arhoswch ar yr A5 o Langollen a dilynwch yr arwyddion i Fetws y Coed. Byddwch yn teithio drwy Lyndyfrdwy a Llidiart y Parc cyn i chi gyrraedd Corwen. Mae Corwen oddeutu deng milltir o Langollen.
Unwaith y byddwch yn cyrraedd Corwen, trowch i’r dde ger cerflun Owain Glyndŵr tuag at Y Lôn Las ac fe welwch chi brif faes parcio’r dref. Bydd man dechrau’r Å´yl Gerdded yn y Pafiliwn Chwaraeon. Cerddwch yn ôl tuag at y Lôn Las a throwch i’r dde. Fe welwch y Parc Coffa ar eich chwith. Edrychwch i’r dde, y tu ôl i’r llain fowlio ac fe welwch chi’r Pafiliwn Chwaraeon.
Cludiant Cyhoeddus
Rydym yn annog ymwelwyr i ystyried defnyddio cludiant cyhoeddus lle bo hynny’n bosibl. Mae manylion y gwasanaethau sydd ar gael i’w gweld isod.
National Rail a Gwasanaeth Bysiau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch trenau neu fysiau, cysylltwch â Traveline ar 0871 200 22 33 (ar agor bob dydd rhwng 7.00am a 10.00pm). Gallwch hefyd ymweld â’r wefan: www.traveline-cymru.org.uk